Ardal Gwent Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol dros Loegr a Cymru
Hafan Gwybodaeth Mae cyfnod prawf yn gweithio Wedi'ch dedfrydu? Cyfryngau Swyddi a gyrfaoedd Cysylltu
Swyddi a gyrfaoedd > Hyfforddiant i Swyddogion Prawf Saesneg/English

Site highlights
Gwerthoedd
Mae'r staff prawf yn ymrwymedig i'r gwerthoedd craidd canlynol:
trin pobl mewn modd teg ac agored a chyda pharch
safbwynt digyfaddawd yn erbyn niwed a achosir gan droseddau
cred gref yng ngallu pobl i newid
pwysigrwydd cymryd cyfrifoldeb personol dros ymddygiad
yr angen i ddysgu o brofiad


Hyfforddiant i Swyddogion Prawf
  • Cwrs dwy flynedd sy'n arwain at y Diploma mewn Astudiaethau Prawf (DipPS). Mae'r cymhwyster hwn yn cyfuno'r BA mewn Cyfiawnder Troseddol a ddyfernir gan Brifysgol Hallam Sheffield a Chymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (CGC) mewn Cyfiawnder Troseddol ar Lefel 4.

  • Cynhelir y broses recriwtio ym mis Mawrth a mis Ebrill bob blwyddyn, ac mae'r cwrs yn dechrau yn yr hydref.

  • Mae'r corff hyfforddi rhanbarthol, Consortiwm Cymru, yn goruchwylio'r broses recriwtio a dethol. Mae ganddo rôl allweddol hefyd wrth reoli'r rhaglen hyfforddi gyda'r pedair Ardal Brawf yn y rhanbarth a Phrifysgol Hallam Sheffield.

  • Cyflogir Swyddogion Prawf dan Hyfforddiant yn uniongyrchol gan yr Ardal Brawf y maent yn gwneud cais iddi.

  • Telir ystod cyflog o £14,095 - £14,518 pan fydd pobl yn cael hyfforddiant.

  • Caiff Swyddogion Prawf dan Hyfforddiant a benodir i Ardal Brawf Gwent eu lleoli mewn rhannau gwahanol o'r sir yn ystod yr hyfforddiant.
  • Ar ddechrau'r cwrs, dyrennir Aseswr Datblygu Arfer (PDA) i bob Hyfforddai sy'n rhoi cymorth personol a phroffesiynol parhaus.

  • Mae pob un o'r hyfforddeion yn mynychu Coleg Prifysgol Cymru, Casnewydd (UCWN) ar gyfer blociau astudio fel rhan o'u hastudiaethau.

  • Mae'n rhaid i Swyddogion Prawf o dan Hyfforddiant fod yn 20 oed neu drosodd ar ddechrau'r hyfforddiant.

Caiff yr ymgeiswyr eu barnu yn ôl eu galluoedd o ran:

  • gwaith tîm a chysylltu ag eraill
  • gwybodaeth a dealltwriaeth am waith grw p a gwaith unigol
  • cyfathrebu
  • cynllunio a threfnu
  • sgiliau hunan-reoli
  • cymhelliant ac ymrwymiad
  • bod yn agored i syniadau newydd
  • sgiliau datrys problemau (dadansoddi)
  • ymrwymiad i werthoedd craidd y staff prawf

Mae pecynnau cais ar gael yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill. Os bydd angen pecyn arnoch cysylltwch â:

Consortiwm Cymru
Ty Tremains
Heol Tremains
Pen y Bont ar Ogwr
CF31 1TZ

E-bost: Consortiwm Cymru
Gwe: www.probation.walestraining.gov.uk


Cyflwyniad
Swyddi gwag presennol
Hyfforddiant i Swyddogion Prawf


Mae pobl fel chi yn gweithio yn y gwasanaeth prawf

tudalen nesaf: Manylion cyswllt

brig y dudalen