 |

|
 |

Carcharau
Rhydd
yr adran hon fanylion am waith staff prawf yn y ddau garchar yng Ngwent.
Mae gan y naill a'r llall dimau o aelodau staff prawf wedi'u secondio
sy'n gweithio ar y safle.
Mae 5 aelod o staff prawf yn gweithio yng ngharcharau Gwent. Mae nifer y staff prawf ar secondiad a natur benodol y gwaith yn amrywio rhwng y carcharau. Nodir y manylion mewn contract y cytunwyd arno rhwng Rheolwr y Carchar a Phrif Swyddog yr Ardal Brawf.
Beth mae staff prawf yn ei wneud mewn carchar
- yn paratoi gwybodaeth ac asesiadau risg ar gyfer carcharorion a gaiff eu hystyried i'w rhyddhau'n gynnar e.e. cyngor ar gyrffyw
- yn gwneud gwaith ar ymddygiad troseddu o fewn y broses rheoli dedfrydau
- yn gwneud gwaith ar gynllun gwybodaeth fechnïaeth y carchar, ar gyfer carcharorion sydd yn y ddalfa yn aros i sefyll eu prawf
- yn cyfrannu at sicrhau y cedwir y risg o hunan-niwed i'r carcharor i'r lleiaf posibl
- yn gweithio gyda'r gwasanaeth carchar o ran rheoli dedfrydau, gan gynorthwyo staff carcharau wrth baratoi cynlluniau dedfrydau
- yn rhedeg gwaith grw p gyda charcharorion sydd wedi'i gynllunio i ymdrin ag ymddygiad troseddu a lleihau'r posibilrwydd o gyflawni tramgwyddau eraill
- yn cydweithio ag asiantaethau gwirfoddol ac arbenigol gan gynnig cyngor a chymorth i garcharorion i hyrwyddo proses lwyddiannus o adsefydlu carcharorion
- yn cysylltu â staff prawf yn y gymuned sy'n goruchwylio carcharorion ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o'r carchar.
Gwaith staff prawf gyda charcharorion ar ôl iddynt gael eu rhyddhau
Nid yw'r rhan fwyaf o garcharorion yn cwblhau eu dedfryd lawn yn y ddalfa. Ar adeg benodol, cânt eu rhyddhau i gwblhau gweddill eu dedfryd yn y gymuned.
- Caiff y rhai â dedfryd o lai na blwyddyn eu rhyddhau ar ôl cwblhau hanner eu dedfryd ac ni chânt eu goruchwylio.
- Caiff y rhai â dedfryd o rhwng blwyddyn a 47 mis eu rhyddhau ar drwydded ar ôl hanner y ddedfryd a chânt eu goruchwylio gan y gwasanaeth prawf tan ddiwedd y ddedfryd.
- Gellir rhyddhau'r rhai â dedfryd o bedair blynedd neu fwy ar barôl ar ôl iddynt gwblhau hanner eu dedfryd, ond cânt eu rhyddhau'n awtomatig ar drwydded ar ôl cwblhau dwy ran o dair o'r ddedfryd. Caiff y ddau grw p hyn eu goruchwylio gan y gwasanaeth prawf.
Mae hyd y cyfnod goruchwylio yn dibynnu ar hyd y ddedfryd a'r adeg y gellir rhyddhau'r carcharor. Gall hyn amrywio o dri mis ar gyfer rhywun a ddedfrydwyd i flwyddyn yn y ddalfa i weddill ei fywyd/bywyd ar gyfer rhywun a ddedfrydwyd am oes.
Gwybodaeth am oruchwylio
Mae'r carcharor yn gweld y swyddog prawf yn syth ar ôl iddo gael ei ryddhau. Mae'r swyddog prawf yn llunio cynllun goruchwylio gyda'r tramgwyddwr.
Mae cynllun y ddedfryd yn ymdrin â materion megis tai, cyflogaeth ac ailintegreiddio yn y gymuned ac ei nod yw atal y person rhag aildroseddu.
Gall trwydded ryddhau gynnwys amodau megis byw mewn hostel prawf neu beidio â mynd yn agos i'r ardal lle y cyflawnwyd y trosedd. Os bydd y tramgwyddwr yn torri amodau'r drwydded mewn unrhyw ffordd, gall olygu y bydd yn rhaid i'r tramgwyddwr ddychwelyd i'r carchar i gwblhau gweddill y ddedfryd yn y ddalfa.
I gael rhagor o wybodaeth am waith prawf mewn carcharau, anfonwch e-bost
at: Ardal
Brawf Gwent
Gwefannau perthnasol
Y Gwasanaeth Carchar
www.hmprisonservice.gov.uk
Tudalen Cysylltiadau â Charcharau
Cysylltiadau â thudalennau ar wefan y Swyddfa Gartref sy'n rhestru'r holl wybodaeth ar y wefan sy'n ymwneud â charcharau.
www.homeoffice.gov.uk/new_indexs/index_prisons.htm
Manylion Cyswllt Carcharau Gwent
Carchar EM Brynbuga
47 Maryport Street
Brynbuga
NP15 1XP
Ffôn: 01291 672411
Ffacs: 01291 673800
Carchar EM a Sefydliad Troseddwyr Ifanc
Prescoed
Coed-y-paen
Pont-y-pwl
NP4 0TB
Ffôn: 01291 672231
Ffacs: 01291 672197

|
 |
|