Ardal Gwent Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol dros Loegr a Cymru
Hafan Gwybodaeth Mae cyfnod prawf yn gweithio Wedi'ch dedfrydu? Cyfryngau Swyddi a gyrfaoedd Cysylltu
Wedi'ch dedfrydu? > Hosteli Saesneg/English

Ar y dudalen hon:
Beth mae goruchwyliad mewn hostel yn ei olygu?
Rheolau hosteli
Trefn ddyddiol arferol mewn hostel
Beth i'w wneud os oes cwyn gennych


Site highlights
Gwerthoedd
Mae'r staff prawf yn ymrwymedig i'r gwerthoedd craidd canlynol:
trin pobl mewn modd teg ac agored a chyda pharch
safbwynt digyfaddawd yn erbyn niwed a achosir gan droseddau
cred gref yng ngallu pobl i newid
pwysigrwydd cymryd cyfrifoldeb personol dros ymddygiad
yr angen i ddysgu o brofiad


A ddywedwyd wrthych fod yn rhaid i chi aros mewn hostel?

Bydd y dudalen hon yn rhoi gwybodaeth i chi am reolau'r hostel. Bydd hefyd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am drefn ddyddiol yr hostel.

Mae'n rhaid i chi fyw mewn hostel oherwydd:
  • y gorchmynnwyd i chi wneud hynny gan y llysoedd neu fel amod o fechnïaethl
    neu
  • fel gofyniad dedfryd gymunedol gan fod y llys o'r farn bod angen eich goruchwylio mwy neu fod angen cyfeiriad sefydlog arnoch.
    neu
  • ei bod yn amod eich rhyddhau o'r carchar.

Caiff hosteli eu staffio 24 awr y dydd.
Mae staff yr hosteli yn aros mewn cysylltiad agos â'r heddlu.


Nid ydych yn rhydd i fynd a dod fel y dymunwch pan ydych yn byw mewn hostel. Bydd yn rhaid i chi ddilyn rheolau llym a bydd yn rhaid i chi fod yn yr hostel bob nos rhwng 11pm a 7am.

Mae cael eich goruchwylio mewn hostel yn golygu:

  • rheolau llym ynghylch eich ymddygiad
  • gorfodir yr amod bod yn rhaid i chi fod yn yr hostel rhwng 11pm a 7am yn llym
  • gwaith penodol i leihau eich tramgwyddau
  • defnydd adeiladol o'ch amser
  • ymdrin â'ch problemau
  • cyngor ar gyflogaeth a hyfforddiant
  • cymorth gyda llety dilynol os bydd angen

Rheolau hosteli
Os byddwch yn byw mewn hostel, bydd yn rhaid i chi:

  1. Ufuddhau i gyfarwyddiadau'r staff. Mae hyn yn cynnwys:
    - dilyn Polisi Camddefnyddio Sylweddau yr Hostel
    - mynychu cyfarfodydd
    - glynu wrth drefn arferol yr hostel
  2. Ufuddhau i unrhyw gyrffyw - tagio, neu amodau eraill a osodir gan y llysoedd. Hyd yn oed os nad ydych wedi'ch tagio, mae'n rhaid i chi aros yn yr hostel rhwng 11pm a 7am.
  3. Peidio ag ymddwyn mewn modd treisgar, aflonyddgar, rhywiaethol neu hiliol, na defnyddio iaith atgas, sy'n ymyrryd ar hawliau preswylwyr eraill, staff neu gymdogion neu sy'n debygol o ymyrryd ar eu hawliau.
  4. Peidio â dwyn eiddo'r hostel, y staff neu breswylwyr eraill na gwneud difrod iddo.
  5. Talu cyfraniad i gynnal yr hostel, naill ai drwy weithio neu drwy hawlio budd-dal.
  6. Gweld Swyddog Meddygol yr hostel lle y bo'n briodol.
  7. Codi erbyn 9am bob bore rhwng dydd Llun a dydd Gwener, gan beidio â mynd yn ôl i'r gwely ar ôl yr amser hwnnw.
  8. Peidio â dod â diod feddwol neu gyffuriau nas rhagnodwyd gan feddyg neu nyrs i mewn i safle'r hostel, na bod â hwy yn eich meddiant.
  9. Peidio â dod ag eitemau peryglus i mewn i safle'r hostel, na bod â hwy yn eich meddiant.

    Nodwch:
  • mae safle'r hostel yn cynnwys adeiladau'r hostel a thiroedd yr hostel
  • mae'n bosibl y bydd rheolau eraill gan hosteli penodol. Caiff y rhain eu hegluro i chi pan fyddwch yn dechrau byw yno.

Trefn ddyddiol arferol mewn hostel
7am gwiriad cyrffyw
8am brecwast
9am - archwiliad iechyd a diogelwch o ystafelloedd y preswylwyr
- dosbarthu'r post
- atgoffa'r preswylwyr am apwyntiadau
9.30am cyfarfod ar gyfer y preswylwyr a'r staff
10am gweithgareddau e.e. gwaith grwp sy'n canolbwyntio ar dramgwyddau
12.30pm amser i gyfarfod â'r gweithiwr allweddol
1pm gweithgareddau e.e. materion o ran cyflogaeth neu fudd-daliadau
4.30pm amser i gyfarfod â'r gweithiwr allweddol
5pm pryd bwyd y nos
6pm - gweithgareddau cymdeithasol
- amser i gyfarfod â'r gweithiwr allweddol
11pm - gwiriad cyrffyw
- cloi'r drysau a gosod y larwm
gwneir hapwiriadau cyrffyw drwy'r nos.

Beth i'w wneud os bydd cwyn gennych
Cewch eich trin mewn modd teg a chyfartal pan fyddwch yn yr hostel. Disgwylir i chi ymddwyn mewn modd yr un mor deg tuag at bobl eraill. Ni fydd y gwasanaeth yn caniatáu i unrhyw unigolyn a gaiff ei oruchwylio gennym ymddwyn mewn modd hiliol, rhywiaethol nag unrhyw fodd amharchus arall.

Gallwch gyflwyno cwyn os ydych yn teimlo eich bod wedi'ch trin mewn modd annheg neu afresymol. Dylech geisio siarad â staff yr hostel yn gyntaf, neu eu rheolwyr, am hyn.

Os nad ydych yn fodlon ar yr ymateb a gewch, yna gallwch ysgrifennu at y Prif Swyddog yn:

    Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
    Ardal Gwent
    Ty Cwmbrân
    Ystad Parc Mamhilad
    Pont-y-pwl
    Gwent NP4 0XD

Os bydd unrhyw gwestiynau neu broblemau gennych, gofynnwch i staff yr hostel. Byddant yn ceisio datrys y sefyllfa i chi.

Cyflwyniad
Gorchmynion
Rhaglenni achrededig
Tagio
A Ydych yn y Carchar?
Hosteli
Angen Cymorth?










Tudalennau cysylltiedig:
- A Ydych yn y Carchar?
- Tagio
tudalen nesaf: Angen Cymorth?

brig y dudalen